Gwnewch gais nawr am le ar Brosiect Cyfnewid Artistiaid TIR
Dyddiad Rhyddhau: 26 Tachwedd 2008
Pwrpas Prosiect Cyfnewid Artistiaid TIR yw dyrchafu gwaith artistiaid gweledol sydd yn siarad, neu gyda gwybodaeth o, iaith gynhenid Geltaidd, drwy raglen Artist Preswyl.
Mae'n ofynnol i'r artistiaid dewisedig fyw mewn ardal ble mae iaith Geltaidd yn cael ei siarad, yng Nghymru, Iwerddon neu'r Alban.
Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cynhyrchu, wrth breswylio, casgliad o waith a fydd yn cael ei arddangos yn y tair gwlad gysylltiedig. Byddant hefyd yn cyflawni rhaglen o weithgareddau i'r gymuned yn y lleoliadau dewisol, a fydd wedi eu dylanwadu gan brofiadau diwylliannol.
Caiff bob artist lety a stiwdio i weithio ynddi am ddim, ynghyd ag ysgoloriaeth o ?5,000. Gall cyfrwng gweithio'r artistiaid gynnwys cerfluniaeth, paentio, printiau, celf ddigidol, amlgyfrwng, ffotograffiaeth a ffilm neu fideo. Bydd stiwdio ar gael i'r artistiaid yn ddyddiol a disgwylir iddynt weithio o leiaf ugain awr yr wythnos (bydd penwythnosau yn amser rhydd). Disgwylir iddynt hefyd gymryd rhan mewn rhaglen gymunedol leol gyda ysgolion a grwpiau eraill. Gall hyn olygu cynnal gweithdai neu gyflwyniadau. Caniateir o leiaf 5 wythnos rydd i'r artistiaid gynhyrchu 20 darn o waith i'r arddangosfa TIR. (Gwaith i'w gyflwyno yn barod i'w arddangos dim hwyrach na 12 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod preswyl).
Thema'r arddangosfa yw TIR, sy'n golygu 'y ddaear' neu'r 'pridd' yn Gymraeg a Gaeleg. Deg wythnos fydd hyd y cyfnod preswyl.Disgwylir i'r artistiaid gynhyrchu gwaith o faint amrywiol. Ni ddylai maint y gwaith celf weledol fod yn fwy na 48" x 72" er mwyn hwyluso'r arddangosfa deithiol. Gofynnir i'r artistiaid sy'n cymryd rhan i roi rhodd o un darn o gelf i'r ganolfan o fewn y bartneriaeth.
Yn 2010 bydd casgliad o waith yr artistiaid yn cael ei arddangos yn yr orielau/lleoliadau celf sydd ynghlwm a'r prosiect. Bydd yr arddangosfa wedyn yn teithio i ganolfannau a ddewisir ym mhrif ddinasoedd Cymru, Iwerddon a'r Alban. Bydd arddangosfa TIR yn cynnwys y gwaith gorau gan bob artist. Clustnodir cyfraniad o ?500 tuag at gostau fframio er mwyn sicrhau'r safon uchaf bosib o grefftwaith proffesiynol.
Bydd yn ofynnol i'r gwaith a gynhyrchir tra mewn preswyl, ac a ddewisir i'r arddangosfa TIR, fod ar gael i'w werthu. Penderfynir y prisiau drwy drafod gyda'r artist. Rhennir comisiwn o 48% yn gyfartal rhwng y 3 ganolfan gysylltiedig. Bydd yr artist yn cadw 52% o'r holl gomisiwn gwerthiant. Bydd gan y prosiect yr awdurdod i rannu hawlfraint y waith celf a gynhyrchir tra mewn preswyl.
Graddfa amser, lleoliad a strwythur taluDyddiad cau i ymgeiswyr yw dydd Gwener, Rhagfyr 19eg 2008. Dyddiad cychwyn y cyfnod Artist Preswyl cyntaf fydd Chwefror 2009 (gweler amserlen fanwl isod). Bydd y cyfnod Artist Preswyl olaf yn gorffen diwedd Tachwedd 2009. Lleolir y stiwdio yn y lleoliadau cysylltiedig ond efallai bydd angen defnyddio lleoliadau eraill o fewn y rhaglen breswyl Bydd gan yr artistiaid fydd yn cymryd rhan fynediad i'w stiwdio am 6 diwrnod o'r wythnos. Byddant yn derbyn rhaglen breswyl gan y canolfannau cysylltiedig cyn eu dyfodiad. Bydd y 4 Artist Preswyl yn derbyn taliad cychwynnol o ?2,000, yna ?1,000 ychwanegol ar ôl 5 wythnos mewn preswyl, a ?2,000 ar gwblhad a chyflwyniad y gwaith i'w arddangos. Bydd yn ofynnol i'r artist dalu am ei holl gostau teithio a bwyd.
Cyfleusterau
Darperir llety i bob AP gan y lleoliadau cysylltiedig. Bydd gwybodaeth o gefndir y lleoliadau cysylltiedig wedi ei atodi i becyn ymgeisio'r AP a ddewisir.
Cymhwyster
Rydych yn gymwys i ymgeisio os:- Yr ydych yn artist sy'n byw ac yn gweithio o fewn yr ardaloedd sy'n defnyddio iaith Geltaidd yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban ac sy'n siarad, neu gyda gwybodaeth dda o ddiwylliant ac iaith frodorol h.y. Cymraeg, Gaeleg- Yr ydych yn gallu dangos o leiaf tair blynedd o ymroddiad proffesiynol a'ch bod yn ymwneud a gwaith stiwdio yn awr- Yr ydych yn gallu darparu tystysgrif CRB cyfredol - bydd AP yn gweithio gyda phlant. (Bydd y lleoliad yn trefnu hyn os nad oes tystysgrif gyfoes ar gael)Nid ydych yn gymwys os:- Yr ydych yn cynhyrchu gwaith celf fel hobi- Yr ydych yn byw mewn ardal nad oes siarad iaith Geltaidd ynddi (gweler crynhoad ardal)
Meini Prawf
Bydd aelodau o banel yn defnyddio'r meini prawf canlynol i werthuso ymgeiswyr:- Safon gwaith yr ymgeiswyr fel y gwelir yn y gwaith gweledol a gyflwynir- Cofnod o arddangos ac adolygiad beirniadol- Arddangosiad o ymroddiad difrifol a chyson yn y maes proffesiynol o gelf gain drwy gyflwyniad o waith celf a dogfennau eraill
Adolygiad Cais-
Dewisir yr artistiaid gan banel o unigolion gweithredol ym maes diwylliant gweledol. Bydd y panel yn cynnwys aelodau o staff oriel a chyfranogwyr sydd yn artistiaid, adolygwyr, neu guraduriaid.- Bydd y dewis o artistiaid yn seiliedig ar safon artistig a'r gallu i weithio yn gynhyrchiol o fewn y rhaglen- Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn artistiaid proffesiynol.
Canllawiau Cais
Hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus o fewn 4 wythnos o gyflwyno ei gais. Adolygwch restr wirio y cais i sicrhau fod eich cais yn gyflawn ac anfonwch yr holl ddeunydd mewn un pecyn. Ni ystyrir ceisiadau anghyflawn.
Artistiaid Gweledol-
Rhwng 6-10 o ffeiliau JPEG ar CD. Lluniau i fod ddim mwy na 2MB yr un. Maint mwyaf llun i fod yn 800 x 600 picsel.- Rhaid rhifo'r ffeiliau yn ddilynol ac i gyfateb i'ch "Rhestr Lluniau"- Rhestr Lluniau. i gynnwys teitl, dyddiad, maint, cyfrwng i bob llun neu grŵp o luniau a gyflwynir os gwelwch yn dda.
Ffilm/Fideo/Cyfrwng Digidol/Perfformiad/Artist Sain-
Hyd at 20 munud o ddeunydd ar DVD neu CD- Os oes mwy nag un darn, nodwch os gwelwch yn dda ble mae un darn yn gorffen ac un arall yn dechrau- Un dudalen o ddisgrifiad cryno o'r gwaith, yn cynnwys datganiad o'ch bwriad.
Rhestr Wirio Cais
Os gwelwch yn dda a wnewch gynnwys y deunydd canlynol gyda'ch cais:- Ffurflen gais cyflawn- CV gyfredol, yn cynnwys prawf o'ch gwiriad CRB, arddangosfeydd diweddar, gwaith a gwobrwyon- Amlen wedi ei hunan gyfeirio gyda stamp os hoffech i'ch gwaith gael ei ddychwelyd. Ni all y prosiect warantu dychwelyd yr holl luniau ar ôl y broses o ddewis.
Peidio a gwahaniaethu
Mae'r rhaglen Artist Preswyl TIR yn annog ac yn croesawu artistiaid o bob cefndir i gymryd rhan ac ni fydd gwahaniaethu o ran hil, rhyw, ffafriaeth rywiol, anabledd, crefydd, statws priodasol na tharddiad cenedlaetholdeb yn y polisi derbyn.
AMSERLEN Y PROSIECT
DISGRIFIAD AMSER
Dewis artistiaid Rhagfyr 2008Paratoi rhagleni'r lleoliadau Ionawr 2009
Cyfnod gwaith preswyl 1af yn Oriel Plas Glyn y Weddw gan artist Gaeleg o Ynysoedd a'r Ucheldiroedd yr Alban Chwefror 9fed - Ebrill 17eg 09
2ail gyfnod gwaith preswyl yn Inis Oirr gan artist o Gymru Mawrth 23ain - Mai 29ain 09
3ydd cyfnod preswyl yn Taigh Chearsabhagh gan artist o Gymru Mehefin 29ain - Medi 4ydd 09
4ydd cyfnod preswyl yn Oriel Plas Glyn y Weddw gan artist o'r Gaeltacht Gwyddelig Medi 14eg - Tachwedd 20ed 09
Dewis yr Arddangosfa Ebrill 2010
Cyhoeddi catalog a manylion yr artistiaid Awst 2010
Arddangosfa deithiol yn cychwyn yn Oriel Plas Glyn y Weddw Yr Hydref 2010
Arddangosfa yn teithio i Taigh Chearsabhagh Ionawr - Mawrth 2011
Arddangosfa yn teithio i Galway Ebrill - Mehefin 2011
Arddangosfa yn teithio i Ddulyn Gorffennaf - Medi 2011
Arddangosfa yn teithio i Gaerdydd Hydref - Rhagfyr 2011
Arddangosfa yn teithio i Gaeredin Ionawr - Ebrill 2012
Cefnogwyr y Prosiect
Cefnogir Rhaglen Artist Preswyl TIR a'r arddangosfa drwy ariannu hael gan:Ymddiriedolaeth Carnegie; Ymddiriedolaeth Esmee Fairbairn; ?arás na Gaeltachta; Banc Iwerddon; Celf Gwirfoddol Cymru; Celf a Busnes Cymru; Cyngor Gwynedd; Oriel Plas Glyn y Weddw; Oras Eanna; Taigh Cheasabhagh; Cymunedau'n 1af Pen Llŷn; Bwrdd yr iaith Gymraeg.
/Diwedd
Manylion Cysylltu
Oriel Plas Glyn y Weddw,
Llanbedrog,
Pwllheli,
Gwynedd
LL53 7TT
Ffon: 01758 740763
E-bost: gwyn@oriel.org.uk
Cyswllt a'r Cyfryngau
Joanna Davies
Senior Press & Media Officer
Tel: 07817 291512 / 02920 376593
Email: Joanna.Davies@artswales.org.uk
Apply now for TIR Artists' Exchange Project
Release Date: 26 November 2008
The TIR Artists' Exchange Project is dedicated to advancing the work of visual artists who speak, or have knowledge of, a Celtic native language through its Artist-in-Residence programme. The chosen artists must live in a Celtic speaking area of Wales, Ireland or Scotland.
The artists chosen will produce, whilst in residence, a collective body of work that will be exhibited in the 3 partnership countries. They will also fulfil a community based programming schedule, inspired by shared cultural experiences, at each chosen venue.
Each artist is granted free accommodation and studio space, and a ?5,000 scholarship. Artists' media may include sculpture, painting, printmaking, digital art, mixed media, photography, and film or video. Artists will have daily access to studios and will be expected to work in the studio for a minimum of twenty hours per week (weekends are classed as free-time). Artists are also expected to participate in set local programmes involving schools and community groups.
These may involve conducting workshops or presentations. Artists will have a minimum of 5 free weeks in order to produce a minimum of 20 pieces for the TIR Exhibition. (Work to be submitted ready for exhibiting no later than 12 weeks from the end of each residency).
The theme of the exhibition is TIR, which is Welsh and Gaelic for land or earth. The period for the residency will be 10 weeks.
The artists will be expected to produce work of varying sizes. The size of the visual art produced should not exceed 48"x72" due to the restraints of touring the exhibition. Participating artists are asked to donate1 legacy piece of artwork to the partner venue.
In 2010 a collective exhibition of the artists' work will be presented for viewing at the galleries/art centres that hosted a residency. The exhibition will then travel on to chosen venues in the capital cities of Wales, Ireland and Scotland. The TIR exhibition will include the best work from each artist. A contribution towards framing costs of up to ?500 will be allocated to ensure the highest degree of professional craftsmanship is maintained.
Work produced in residence and chosen for the TIR exhibition must be made available for sale. Prices will be set in consultation with the artist. A commission of 48% will be shared equally between the 3 partner venues. The artist will retain 52% of all sales commission. The project retains the right to share copyright for the artwork produced in residence.
Timescale, location and pay structure:
The deadline for applicants is Friday December 19th 2008. The first Artist-in-Residence begins in February 2009 (see detailed schedule below). The last TIR Artist-in-Residence concludes in late November 2009. The studios are located at the partner venues but may also include off-site venues within the residency schedule. The participating artists will have access to their studios 6 days a week. Each artist will receive a residency schedule from each partner venue prior to arrival. All 4 AIR will receive an initial payment of ?2,000, a further ?1,000 after 5 weeks in residence and a closing ?2,000 on completion and submission of work to be exhibited. The artist must pay all their own travelling and food expenses.
Facilities
Each AIR is hosted by the partner venues. Background information for each partner venues is attached to the chosen AIR application pack.EligibilityYou are eligible to apply if:- You are an artist who lives and works within the Celtic speaking areas of Wales, Ireland and Scotland and who speaks or has very good knowledge of the culture and home native language i.e Welsh, Irish/Scots Gaelic- You are able to demonstrate at least three years of professional commitment and are currently engaged in studio work- You can provide a current CRB certificate - AIR's will work with children.You are not eligible if:- You produce art as a hobby- You live outside the Celtic speaking areas (see area brief).
Criteria
Panelists will use the following criteria in evaluating applicants:- Quality of the applicants work as indicated by submitted visual documentation - A record of exhibition and critical review - Demonstration of a serious and consistent dedication of the professional practice of fine arts through submitted artwork and other documents.
Application Review-
Artists are selected by a panel of individuals active in the field of visual culture. The panel consists of gallery senior staff members and participants who are artists, critics, or curators- The selection of artists is based on artistic quality and the ability to work productively within the programme- Applicants must be professional artists.
Application Guidelines
Successful applicants will be notified within 4 weeks of their submission. Please review the Application Checklist to ensure your application is complete and send all materials in one packet. Incomplete applications will not be reviewed.
Visual Artists- Between 6-10 JPEG files on CD. Must not exceed 2MB per image. Maximum image size of 800 x 600 pixels - Files must be numbered sequentially and correspond to your "Image List" - Image List. Please include title, date, size, media, for each submitted image or group of images.
Film/Video/Digital Media/Performance/Sound Artist- Up to 20 minutes of material on DVD or CD- If more than once piece, please indicate where one piece ends and another begins. - One page brief description of work, including a statement of intent.
Application Checklist
Please include the following materials with your application:- Completed Application Form - Current CV, including proof of CRB check, recent exhibitions, work, and awards - Self-addressed stamped envelope if you would like your work returned. The Project cannot guarantee a return of all images after the selection process.
Non-discrimination
JThe TIR Artist-in-Residence Programme encourages and welcomes the participation of artists from all backgrounds and does not discriminate with regard to race, sex, sexual preference, disabilities, religion, marital status, or nation of origin in its acceptance policies.
For details contact:
Oriel Plas Glyn y Weddw,
Llanbedrog,
Pwllheli,
Gwynedd
LL53 7TT
Ffon: 01758 740763
E-bost: gwyn@oriel.org.uk
Media Contact:
Joanna Davies
Senior Press & Media Officer
Tel: 07817 291512 / 02920 376593
Email: Joanna.Davies@artswales.org.uk
27/11/2008
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment