Gadael Yr Ugeinfed Ganrif
· 2-4 Awst, 8.00yh
· Institwt Glyn Ebwy (EVI)
· Tocynnau - £10 (£8 am consesiwn) £5 o dan 19 oed
"Fy enw i ydi Gareth David Potter, a wi’n obsessed gyda cherddoriaeth bop. Ti’n gwybod, y stwff tshêp, grymus ’na sy’n neud i dy galon gyflymu a dy ben ffrwydro. Y stwff ’na na ddylet ti, o dan unrhyw amgylchiadau, gael unrhyw beth i wneud ag e os wyt ti dros dy chwarter canrif…"
Yn nyddiau llwyd refferendwm ’79, roedd Cymru wedi colli’i phlwc a’r sîn roc Gymraeg yn nofio mewn nostaljia. Ond roedd ymweliad aflafar y Sex Pistols â Chaerffili wedi cyffroi dychymyg un bachgen ysgol. Dyma ffurfio band...a fu pethau wedyn byth yr un peth.
Anturiaethau hunangofiannol un dyn dros dau ddegawd olaf yr Ugeinfed Ganrif, a ddaeth i benllanw gyda Cŵl Cymru a Senedd ym Mae Caerdydd, ac sydd yn plethu delweddau, cerddoriaeth a stori wir. Yn ddarlun egnïol ac o’r galon o gyfnod yn ein hanes pan fynnodd un genhedlaeth aflonydd bod y byd yn dod i Gymru ac a aeth â Chymru i’r byd.
29/07/2010
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment