Bagad Pibau Morgannwg. Gweithdai pibyddio Cymreig.
(Welsh language folk music activity)
Dydd Sadwrn 12/02/2011 Am: 10.30yb
Yn: Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful, Neuadd Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB.
(http://www.merthyrtudful.com/)
Dim ond £5.00 pob person
Bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar alawon Cymreig, technegau sylfaenol, sut i ynganu ac addurno’r gerddoriaeth, dysgu wrth glust, chwarae fel grŵp a chael llawer o hwyl! Bydd rhai offerynnau ar gael i’r rhai sy ddim biau pibau eu hunain, neu i bibyddion sy’n canu pibau o wahanol fathau. Bydd y gweithdai yn defnyddio pibau mewn cyweirnod C.
Os ydych yn ddechreuwr bydd angen i chi ganu offeryn gwynt arall fel ffliwt, chwibanogl, neu glarinet, i lefel rhesymol.
Cysylltwch â ni i gadarnhau os yr ydych yn dod os gwelwch yn dda. Os hoffech chi ddefnyddio ein pibau ar gyfer dysgu, bydd angen i chi neilltuo eich set. Am fwy o wybodaeth am y dyddiadau, neu gwybodaeth arall am y gweithdai, cysylltwch â ni ar: bagadmorgannwg@gmail.com
Mae'r gweithdai yn cael eu trefnu gan Bagad Pibau Morgannwg a gyda chymorth oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Am wybodaeth bellach ffoniwch
Swyddfa Menter Merthyr Tudful 01685 722176