Menter Merthyr Tudful |
Information for you:
On: Thursday 11/02/2010 Time: 7.30
At: Clwb y Bont, Pontypridd
Mentrau Iaith Cymru/Radio Cymru
Battle of the Bands 2010
For further information contact Menter Merthyr Tudful 01685 722176.
The regional round of the Welsh language Battle of the Bands
takes place on the 11th Feb, open to original artists/bands with
no prior releases.
For full list of rules and information please contact 01685 722176
**********************************************************************************
Digwyddiad i chi:
Dydd Iau 11/02/2010 Am: 7.30
Yn: Clwb y Bont, Pontypridd (am fanylion Bws o Ferthyr
Cysylltwch 01685 722176)
Mentrau Iaith Cymru/Radio Cymru
Brwydr y Bandiau 2010
Am wybodaeth bellach ffoniwch
Swyddfa Menter Merthyr Tudful 01685 722176
Mae'r gystadleuaeth yn agored i grwpiau (o nifer resymol) neu
unigolyn sydd yn byw yng Nghymru, ac sydd yn canu yn unrhyw
arddull roc/ hip-hop/ gwerin/ acwstig/ jazz/ pop/ gwlad/ blŵs etc.
ond dan yr amodau isod
• Rhaid i'r unigolyn neu o leiaf hanner yr aelodau mewn grŵp fod
yn 21 mlwydd oed neu iau, a rhaid i bob unigolyn fod dros 16
mlwydd oed.
• Nid yw'r Grwpiau neu'r unigolyn wedi rhyddhau albwm, sengl
neu EP yn fasnachol (ar werth yn y siopau). Gall y rhai sydd wedi
cyfrannu traciau at CDs aml gyfrannog gystadlu.
• Ni chaniateir i aelodau staff BBC na'u perthnasau gystadlu, nac
ychwaith unrhyw berthynas agos neu staff i fudiadau neu
unigolion sydd yn gysylltiedig a'r gystadleuaeth
• Gofynnir am ganiatâd rhiant neu warcheidwad pan fo'n
anghenraid, oherwydd cyfraith gwlad neu ganllawiau'r BBC.
Sut i gystadlu?
• Mae'n rhaid i bob band chwarae 3 cân Gymraeg. Mae'n rhaid i o
leiaf un gân fod yn gwbl wreiddiol (cerddoriaeth a geiriau), ond
caniateir i'r gan gyntaf a berfformir fod yn 'cover version' o
unrhyw gan gyda geiriau Cymraeg. Ni fydd y gân yma yn cael ei
darlledu ar y radio os fydd y band yn llwyddiannus yn y ddwy
rownd gyntaf.
• Mae angen i fandiau neu unigolion gysylltu gyda'u Menter Iaith
leol cyn diwedd Rhagfyr 2009, drwy ffonio, e-bostio neu anfon
llythyr. Cysylltwch â Nicola Evans ar 07500 878285 neu drwy e-
bostio nicolaevans@menteriaith.org
No comments:
Post a Comment