16/06/2010

Dawns y Cymoedd

Clyweliadau 'Dawnsio Dwys'

Perfformiad Terfynol yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent

Mae Dawns y Cymoedd yn gwahodd pobl ifanc 14 – 25 mlwydd oed o … i ddod i glyweliad am le ar weithdy dawns dwys pedwar diwrnod i greu dawns a fydd yn cael ei pherfformio yn yr Eisteddfod ar 6ed o Awst 2010.

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: Canol Dydd 25ain o Fehefin 2010

Dyddiadau’r Clyweliadau: 3ydd o Orffennaf 2010
I ddawnswyr o Dorfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerffili:10yb -1yh, Canolfan Byw Egnļol Pont-y-pwl, Torfaen.
I ddawnswyr o Ben-Y-Bont a Rhondda Cynon Taf: 2.30yh - 5.30yh, Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad.

Os hoffech gofrestru i gymryd rhan yn y clyweliadau cysylltwch â:
Verity Hiscocks (Torfaen) 01633 628968 / Lowri Mair-Owen (Pen-Y-Bont) 01656 815987 / Hannah Mathieson (Blaenau Gwent) 01495 322510 / Tony Gallagher (Caerffili) 01495 224425 / Gus Payne (Merthyr Tudful) 01685 725382 / Louise Prosser (Rhondda Cynon Taf) 01443 490397.

Os cewch eich dewis i gymryd rhan yn y Dawnsio Dwys, bydd angen i chi fod ar gael ar: 2il, 3ydd, 4ydd a 5ed o Awst 2010 ac ar 6ed o Awst ar gyfer y perfformiad yn yr Eisteddfod.

Man Ymarfer Coleg Merthyr Tudful

Amseroedd: Eich codi: 9yb – 6yh yn ôl a blaen bob dydd (yn cynnwys amserau teithio).

Bydd Gweithiwr Cefnogi/Gwarchodydd yn cael ei ddarparu gan eich cyswllt yn yr awdurdod lleol.

Cyfraniad at deithio/Crysau-T: £10 y pen.

Bydd y panel clyweld yn cynnwys coreograffydd gwadd, a chynrychiolwyr o Ddawns Gymunedol Cymru a Phartneriaeth Ddawns y Cymoedd.

Mae Dawns y Cymoedd yn bartneriaeth sy’n hyrwyddo Dawns yn y Cymoedd. Fe’i cefnogir gan: Cynghorau Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerphili, Pen-Y-Bont ar Ogwr, Torfaen a Blaenau Gwent.

No comments: